Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Deisebau
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
20/12/2018
Annwyl Mr Rowlands
DeisebP-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i dan ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf.
Ar ôl derbyn eich ymholiad am fanylion polisïau derbyn lleol a’r ffordd caiff ceisiadau gan rieni i ohirio mynediad eu plentyn i ysgol llawn amser, cyfeiriaf at bolisi mynediad a llawlyfr blynyddol ‘Gwybodaeth i Rieni’ i’ch sylw.
Mae’r ddogfen yn rhoi gwybodaeth i rieni am bolisïau a threfniadau addysgol Awdurdod Lleol Môn yn unol â’r gofyn sy’n sefydlu fframwaith cyfreithiol ar gyfer derbyniadau i ysgolion. Nid yw’r Polisi yn cyfeirio’n benodol am geisiadau i ohirio mynediad, ond nodir yn glir nad yw’r gyfraith yn mynnu bod plentyn yn dechrau’r ysgol yn llawn amser tan ddechrau’r tymor yn dilyn pumed pen-blwydd y plentyn:-
CYNRADD - ym y Medi yn dilyn pen-blwydd yn 4 oed. (Y Medi yn dilyn y 4ydd pen-blwydd ydi’r oedran perthnasol hyd yn oed yn yr ysgolion cynradd sy’n derbyn plant yn rhan amser yn y mis Medi yn dilyn y 3ydd pen-blwydd).
NODER: Nid yw’r gyfraith yn mynnu bod plentyn yn dechrau’r ysgol yn llawn amser tan ddechrau’r tymor yn dilyn pumed pen-blwydd y plentyn.
Yn arferol derbynnir plant i ysgolion cynradd ym Môn unwaith y flwyddyn, yn y Medi yn dilyn eu
pen-blwydd yn 4 oed. Yr unig eithriadau i fynediad yn y Medi yn dilyn pen-blwydd yn 4 oed fydd
mewn achosion arbennig lle bydd yr Awdurdod o’r farn y byddai peidio caniatáu mynediad cynnar
yn niweidiol i ddatblygiad addysgol a/neu gymdeithasol y plentyn yng nghyd-destun gofynion Deddf
Plant1989 neu Restr Amddiffyn Plant.
Mae gan Cyngor Sir Ynys Môn Fforwm Mynediad ar gyfer ymgynghori a thrafod materion sy’n codi o’r trefniadau mynediad. Mae prifathrawon, llywodraethwyr, yr Awdurdod Lleol, asiantaethau sy’n cefnogi disgyblion ag anghenion addysgol arbennig ac awdurdodau addysg esgobaethol yn cael eu cynrychioli ar y Fforwm. Mae’r Fforwm yn datblygu consensws lleol sydd hefyd yn sicrhau fod trefniadau mynediad yn cydweddu â materion perthnasol eraill megis cynllunio lleoedd mewn ysgolion, darparu ar gyfer plant ag anghenion arbennig, newid rhifau mynediad, dalgylchoedd a.y.b.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf daeth un cais i law i ohirio mynediad i’r ysgol a hynny oherwydd bod y plentyn wedi ei eni yn yr haf ac ym marn y rhieni nid oedd yn barod i ddechrau ysgol amser llawn oherwydd ei dyddiad geni.
Caniatawyd y cynnig ac ar hyn o bryd mae’r plentyn hwnnw yn mynychu’r ysgol rhan amser gyda’i gyfoedion o fewn blwyddyn Derbyn.
Hyderaf fod y wybodaeth uchod o fudd i chi wrth symud ymlaen gyda’r gwaith .
Yn gywir,
Gwyneth Môn Hughes
Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad
Croeso i chi ddelio gyda’r Cyngor yn Gymraeg neu’n Saesneg. Cewch yr un safon o wasanaeth yn y ddwy iaith. You are welcome to deal with the Council in Welsh or English. You will receive the same standard of service in both languages.